Eiddil Fimosoa drwy ddylif misoedd,

Hwyliai i'w hantur ar wamal wyntoedd,

Ei chragen yn herio'r llydan foroedd,

A rhoddwyd i'w llywio freuddwyd lluoedd;

Anelu o fro'r niwloedd - digariad,

A morio i wlad y mawr oludoedd.

R.B.W.

Teledu a Radio


Wrth i'r Côr fynd o nerth i nerth gan ennill yn gyson yn Yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Ðyl Gerdd Dant cawsom wahoddiadau lu i ymddangos ar y teledu tua chanol yr wythdegau. Cawsom ein gwahodd i ganu gan Mair Carrington Roberts, gwestai ar un o raglenni Meredydd Evans yn y gyfres, "Canu Penillion". Ai dyma'r tro cyntaf i ni wisgo ein ffrogiau Berkertex glas a gwyn ?

   Fe ymddangosodd y Côr ar "Rhaglen Hywel Gwynfryn" ac ar " Dechrau Canu, Dechrau Canmol" yn 1985 ac ar raglen "Trebor" yn 1986. Fe fuon ni'n cystadlu ar raglen Gareth Glynne, "Am y Corau" gan guro ein gwrthwynebwyr, Côr Blaenporth o Geredigion. A fu erioed y fath berfformiad o "Unwaith eto Nghymru annwyl"?

   Ymddangosodd y Côr bob Nos Sul am fis ar gyfres Jenny Ogwen, "Cais am Gân". Cawsom daith hudolus i Ddyfed i'r Eglwys Gadeiriol yn Nhþ Ddewi i gyfrannu i raglen "Nadolig y Beirdd". Ym Medi 1997 treuliwyd noson anghyfforddus iawn yn eistedd ar
fyrnau gwair am oriau yn

AR GOF A CHADW

Dwy o delynorion y côr -

Lowri Ffrancon a Bethan Roberts

Telynorion


Meinir Heulyn

Alwena Roberts

Bethan Roberts

Eirian Dyfri

Lowri Ffrancon

Kathryn Thomas

Kathryn Rees

Torri Record


Ym Medi 1982 gwahoddodd Cwmni Sain y Côr i recordio detholiad o'r Awdl "Patagonia" gan R. Bryn Williams a Salm 84 i'w cynnwys ar Record Telyn Cymru 5.

   Ym Mis Medi 1987 cyhoeddodd y Côr gaset. Alwena wrth gwrs oedd piau'r gosodiadau campus ac mi gyfrannodd Eirlys Gravelle yn helaeth i'r record gyda'i threfniadau celfydd o'r alawon gwerin. Roedd yn braf cael croesawu Meinir Heulyn yn ôl i gyfeilio ar y delyn.

Llun o glawr y record, Telyn Cymru 5, 1982

   Un o brif rinweddau Merched y Garth yw eu dawn i gyflwyno'r geiriau yn deimladwy ac yn gerddorol gyda sain melfedaidd clos a chynnil.

   Mae cerdd dant yn gyfrwng arbennig i ddehongli ein stôr amhrisiadwy o farddoniaeth ac mae'r Merched wedi llwyddo i gyfleu y gorau o'n treftadaeth. Daeth triniaeth y Merched o waith ein beirdd a'n hemynwyr â ias i lawr asgwrn cefn droeon ac mae'r asiad o alawon a chyfalawon wedi eu plethu yn gelfydd ac yn soniarus i'r glust wedi ychwanegu at gyflwyniadau arbennig.

   Rhown glod iddynt am eu cyfraniad yn sicrhau rhan bwysig o'n treftadaeth unigryw ac am roi cyfle i bobl yr ardal hon, Cymru gyfan a thramor glywed Cerdd Dant ar ei orau.

SAIN Y MERCHED

Tudalen Nesaf >

recordio eitemau ar gyfer y gyfres Noson Lawen. Cyfrannodd y Côr ddwy waith i "Oedfa'r Bore"o'r Tabernacl, Efail Isaf.

   Profiad hynod oedd ceisio canu Cerdd Dant byrfyfyr ar raglen Alwyn Samuel, "Alaw ac Anian".