|
Gymru difraw, daw y dydd Y gweli dy gywilydd. Ni all sðn ennill senedd, Ni ddaw fyth heb newydd fedd. Ac am hynny, Gymru, gwêl Y gðr sydd ar y gorwel. G.LL.O. |
|
Bu'r côr yn brysur iawn yn y dyddiau cynnar yn cynnal cyngherddau ar hyd a lled De Ddwyrain Cymru. Fe fuon ni ym Mhenybont ar Ogwr, Casnewydd, Caerdydd, Llanbradach, Dinas Powys a Llantrisant yn diddanu Cymdeithasau Cymraeg. Fe wnaethon ni gynorthwyo Merched y Wawr Hirwaun, Y Creigiau a Phentre'r Eglwys i ddathlu Gðyl Ddewi. Buom droeon i Dreorci ac i ardal Caerffili. Roedd gennym gefnogwr brwd yn y diweddar, annwyl Mrs Lilly Richards, "Ardderchog : Ffantastig, ferched bach! Daliwch ati" oedd ei hanogaeth bob tro. Cawsom y fraint o rannu llwyfan gydag |
|
cyngherddau |


|
Llun ar gyfer Cyngerdd yr Urdd yn 1988 |
|
Roedd yn rhaid i ni fod ar ein gorau glas pan gawsom ein gwahodd i Lanerfyl ( cartref Alwena) i gynnal cyngerdd yn 1985. Yn nechrau'r nawdegau aelodau Côr Merched y Garth oedd y gwesteion arbennig yng Nghyngerdd Blynyddol Bandiau Pres Tredegar. Bu'r côr hefyd yn canu yn yr Ðyl Flodau yng Nglynebwy. |

|
Canu mewn Noson Lawen yn Llanwrtyd 1993. |
|
Mae'n debyg mae un o'r breintiau mwyaf a ddaeth i ran y côr oedd cael ein gwahodd i ganu yng Ngwasanaeth Agor y Cynulliad yn yr Eglwys Gadeiriol yn Llandaf. Bydd y wefr o fod yno'n canu yn aros yn y cof am byth ac yn benllanw cyfnod o ddeng mlynedd o arweinyddiaeth ysbrydoledig gan Menna. Awn ymlaen gyda Llinos i gyfnod pellach o weithgaredd prysur, gobeithio. Mae'r hwyl a gawsom yn Abergwaun, Salem Canton ac yn Y Tabernacl ym Mhenybont ar Ogwr yn ddiweddar yn argoeli'n dda iawn i'r dyfodol. |

|
Y côr yng Ngwasanaeth Agor y Cynulliad yn Llandaf 1999. |
|
Elinor Bennett yng Ngðy1 Bro'r Preseli. Daeth gwahoddiadau o dros y ffin i ni gynnal cyngherddau yn Llundain, Caerfaddon a Bryste. Braint oedd cael canu ar lwyfan Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd yng Ngðyl Telynau'r Byd 1991 ac adeg Eisteddfod yr Urdd yn Nhaf Elái. (Faint ohonoch sydd yn cofio'r cyflwyniad 'gwefreiddiol' o Ffinlandia ar ddiwedd y noson?) |