I Heulwen Thomas, un o aelodau gwreiddiol Côr Merched y Garth mae'r diolch ein bod ni yma'n dathlu.

   Wrth inni gyd-deithio gyda Chôr Telynau Tywi ar draws y môr i Drá Li ym Mis Ebrill 1999 mi wnaeth Heulwen ein hatgoffa fod ein côr yn dathlu pen-blwydd yn un ar hugain oed. Bu rhyw fân siarad am ddathlu yn ystod y tridiau yn Nhrá Li ac ar ôl dychwelyd o'r Iwerddon yn fuddugoliaethus penderfynwyd bwrw ati i drefnu noson o ddathlu.

    Does yna ddim cofnod pendant

o'r union ddyddiad y sefydlwyd y parti gan Meinir Heulyn, ond wrth fynd ati i chwilio a chwilota sylweddolwyd ein bod wedi cystadlu yng Ngðyl Gerdd Dant Talybont yn 1977 a'n bod wedi cynnal cyngerdd yn Nhreorci i ddathlu Gðyl Ddewi yn 1978. Felly, fe welwch ein bod ychydig yn hþn na'r un flwydd ar hugain!

    Ta waeth am yr union ddyddiad, y peth pwysig yw fod Côr Merched y Garth YMA O HYD a bod yr aelodau presennol yn cael y fraint o ddathlu yng nghwmni nifer fawr o'n cyn-aelodau.

Nid yn aml mae'r Cymry yn brolio eu hunain ond mae hanes Côr Merched y Garth yn destun haeddiannol i'w adrodd a'i ddathlu ar gychwyn canrif newydd.

   Mae'r côr wedi ennill naw gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol, pum gwaith yn yr Ðyl Gerdd Dant ac wedi bod yn bencampwyr yr Ðyl Ban-Geltaidd. Mae arweinyddion y côr wedi ennill dwy fedal - Medal Aur Clogau a Medal Noel John a gwahoddwyd y côr i fod yn rhan o ddathlu agor y Cynulliad Cenedlaethol.

Parti Merched y Garth yn cystadlu

yn Eisteddfod Caerdydd 1978.

1977 - 2000

dathlu LLWYDDIANT

PA benblwydd ydyn ni'n ei ddathlu dwedwch?

Sawl Parti?

Wedi i Meinir ddysgu'r gosodiad ar gyfer y partïon (Eisteddfod Caerdydd 1978) sylweddolwyd fod mwy nag un ar bymtheg o aelodau'n dod i ymarfer o Sul i Sul felly cofrestrwyd dau barti, Merched y Garth a Merched Bro Taf. ( Un parti yn unig wnaeth gystadlu yn y pen draw, sef Merched y Garth).

Merched y Garth


Mae'r ias ynom â'r seiniau - yn agor

        Y neges mewn geiriau;

   Swyn y gainc a'r gerdd sy'n gwau

   Mewn në o harmonïau.


Rhys Dafis

Tudalen Nesaf >

< i'r Dewisiadau